Deputy Manager x 2 (Sylva Gardens)

Conwy County Borough Council

Deputy Manager x 2 (Sylva Gardens)

£33945

Conwy County Borough Council, Conwy, Conwy - Conwy

  • Full time
  • Permanent
  • Onsite working

Posted 2 weeks ago, 3 May | Get your application in now before you miss out!

Closing date: Closing date not specified

job Ref: a79a1a48c47c438ca918b5761c16f5eb

Full Job Description

As the deputy manager you will be accountable for the operational supervision of the team of residential support workers within in the residential home for children.

One of the key areas of responsibility will be to ensure that you promote, and value 'Active Support', 'Positive Behaviour Support' and the 'Reduction of Restrictive Practices' approaches as a central method of enabling children and young people to engage more in their daily lives; building strong relationships with those surrounding them, developing independent living skills and becoming active members within their communities through delivering high quality care.

As the deputy manager you will be required to support the registered manager to:

  • Manage the delivery of operational responsibilities

  • Ensure compliance with the standards within the regulated service.

  • Ensure services are delivered in line with the SSWBA.


  • The deputy manager will be responsible for supervising the staff team to ensure:

    They put the children and young people's needs at the centre of their care and ensure they have voice and control overreaching the outcomes that help them achieve wellbeing.

    That children and young people using the service are empowered to become more involved in the design and delivery of the service by putting in place communication systems bespoke to the child / young person that will give the child / young person a clear voice on what is important to them.

    You will be expected to:
    Be responsible for ensuring that the day to day running of the service is delivered in a manner which results in continuous improvement in the service so that children and young people are supported to achieve all they can; they are provided with the right support at the right time; they are safe and are protected from abuse.

    Provide a positive role model to all team members in relation to conduct within the workplace and give every member of their team the support that they require to do their work in a way that plays to their strengths.

    Communicate and maintain positive relationships with the children/young people, their families, social workers, and other professionals on a day-to-day basis as required and build two-way relationships based on trust, openness, honesty, and respect within the boundaries of the role.

    Provide workplace supervision and guidance for support workers and ensuring that they work safely and in a manner that meets the standards that are required of a Social Care Worker within the Social Care Wales Code of Conduct.

    We are passionate about working together to make a positive difference to the lives of children and young people to 'have the best life possible' by providing them with a supportive and homely environment that is centred on their individual needs. This will be achieved by putting the child / young person at the centre of all support planning and developing strategies that will enable the child/young person to develop skills in all aspects of their life to give them independence and feel included in their communities based on what is important to them., To have the QCF Level 3 in leadership children and young people or equivalent NVQ in order to register with Social Care Wales as a children's residential worker.

    To have the ability to attain City and Guilds Level 4 Preparing for Leadership and Management in Health and Social Care.

    At least 5 years' experience and knowledge of working with children/young people, including those with complex needs and behaviour that challenges, Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for 1 post and essential for 1 post. We are committed to our Welsh Language Standards. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either Language will not be treated less favourably than each other.

    Salary: £30,296 - £33,945 y flwyddyn

    Package: 37 awr yr wythnos, Llawn Amser, Parhaol

    Work Base: Cartref Preswyl Plant Sylva Gardens - Llandudno, Conwy, Gogledd Cymru

    Job Category/type: Gofal Cymdeithasol, Rheoli

    Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Fiona Dennison Rheolwr Adain

    Ydych chi eisiau gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ifanc?

    Rydym ni'n angerddol am weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc i 'fyw'r bywyd gorau posibl' drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a chartrefol iddynt sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion unigol. Cyflawnir hyn drwy roi'r plentyn / unigolyn ifanc wrth wraidd yr holl waith cynllunio cymorth a datblygu strategaethau a fydd yn galluogi i'r plentyn / unigolyn ifanc ddatblygu sgiliau ym mhob agwedd o'u bywydau i roi annibyniaeth iddynt fel eu bod nhw'n teimlo'n rhan o'u cymunedau yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig iddynt.

    Fel y dirprwy reolwr byddwch chi'n atebol am oruchwyliaeth weithredol y tîm o weithwyr cymorth preswyl yn y cartref preswyl i blant.

    Un o'r prif feysydd cyfrifoldeb fydd sicrhau eich bod chi'n hyrwyddo ac yn gwerthfawrogi 'Cefnogaeth Weithredol', 'Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol' a 'Lleihau Arferion sy'n Cyfyngu' fel dull canolog o alluogi plant a phobl ifanc i ymgysylltu mwy yn eu bywydau bob dydd; meithrin perthnasoedd cadarn gyda'r rhai o'u cwmpas nhw, datblygu sgiliau byw'n annibynnol a dod yn aelodau gweithredol o'u cymunedau drwy ddarparu gofal o ansawdd uchel.

    Fel y dirprwy reolwr bydd gofyn i chi gefnogi'r rheolwr cofrestredig i:
  • Reoli darpariaeth cyfrifoldebau gweithredol

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â'r safonau yn y gwasanaeth y caiff ei reoleiddio.

  • Sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu yn unol â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.


  • Bydd y dirprwy reolwr yn gyfrifol am oruchwylio'r tîm staff i sicrhau:

    Eu bod nhw'n rhoi anghenion y plant a'r unigolion ifanc wrth wraidd eu gofal, a sicrhau bod ganddyn nhw lais a rheolaeth dros gyrraedd canlyniadau sy'n eu helpu nhw i sicrhau lles.

    Bod plant a phobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn cael eu grymuso i gymryd mwy o ran yn y gwaith o ddylunio a darparu'r gwasanaeth drwy roi systemau cyfathrebu ar waith sy'n benodol i'r plentyn / unigolyn ifanc, a fydd yn rhoi llais amlwg iddyn nhw ar yr hyn sy'n bwysig iddynt.

    Bydd disgwyl i chi:
    Fod yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal o ddydd i ddydd mewn modd sy'n arwain at welliant parhaus yn y gwasanaeth fel bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i gyflawni popeth y gallan nhw; eu bod nhw'n cael y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir; eu bod nhw'n ddiogel ac yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth.

    Bod yn esiampl dda i holl aelodau'r tîm o ran ymddygiad yn y gweithle a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bob aelod o'u tîm i wneud eu gwaith mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar eu cryfderau.

    Cyfathrebu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol gyda'r plant/pobl ifanc, eu teuluoedd, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill o ddydd i ddydd yn ôl yr angen a datblygu perthnasoedd dwy ffordd yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, gonestrwydd a pharch o fewn ffiniau'r swydd.

    Goruchwylio a chynnig arweiniad yn y gweithle i weithwyr cefnogi a sicrhau eu bod nhw'n gweithio'n ddiogel ac mewn modd sy'n bodloni'r safonau sy'n ofynnol gan Weithiwr Gofal Cymdeithasol dan God Ymddygiad Gofal Cymdeithasol Cymru.

    Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano gennych chi:
    Bod â QCF Lefel 3 mewn arweinyddiaeth plant a phobl ifanc neu NVQ cyfatebol er mwyn cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr preswyl plant.

    Gallu cyrraedd Lefel 4 City and Guilds - Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheoli mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

    O leiaf 5 mlynedd o brofiad a gwybodaeth o weithio gyda phlant/pobl ifanc, gan gynnwys unigolion ag anghenion cymhleth ac ymddygiad heriol.